|
Croeso i raglen e-hyfforddiant Bwrdd Croeso Cymru, a gynlluniwyd
i’ch galluogi chi i wella’ch gwybodaeth am Gymru fel
cynnyrch, ac i hyrwyddo ein gwlad swynol yn hyderus!
Cafodd y rhaglen e-hyfforddiant ei chynllunio i fod yn hyblyg,
yn hawdd i’w defnyddio ac mae’n seiliedig ar strwythur
modwlar sy’n caniatáu i chi bori drwyddi - a rhoi’r
gorau iddi - fel y mae eich amserlen brysur yn caniatáu.
Y RHAGLEN E-HYFFORDDIANT
Mae’r rhaglen yn cynnwys 7 uned, gyda phrawf amlddewis ar
ddiwedd pob uned.
Mae’r unedau’n cynnwys ystod o wybodaeth ffeithiol
am Gymru; ei hanes, ei daearyddiaeth ac yn bwysig, sut y mae cyrraedd
Cymru a theithio o’i chwmpas drwy ddefnyddio system fap ryngweithiol.
Dysgwch am Hanes Cymru - ei mythau a’i chwedlau; ei chymeriadau
adnabyddus a hefyd yr atyniadau amrywiol niferus y gall eich cleientiaid
ymweld â hwy pan fyddant wedi cyrraedd y wlad.
A oes angen help arnoch i lunio taith o gwmpas gerddi neu gestyll?
Neu drefnu llety ar gyfer eich cleientiaid? Yna, gadewch i’n
harbenigwyr lleol ar Gymru eich tywys chi - mae Uned 7 yn canolbwyntio
ar gynllunio teithlen a helpu i chi gysylltu â’r rheiny
sy’n gwybod am Gymru - y person gwybodus hwnnw ar lawr gwlad
neu Dywysydd Taith Swyddogol Cymru.
Gwnewch argraff ar eich cleientiaid gyda chyfoeth o wybodaeth am
Gymru wrth i chi ddatgelu rhai o’r ffeithiau llai adnabyddus
am Gymru - cewch y rhain yn yr adrannau A oeddech chi’n gwybod?!
CWBLHAU'R RHAGLEN E-HYFFORDDIANT
Pan fydd y 7 uned wedi’u cwblhau’n llwyddiannus, byddwch
yn cael Tystysgrif Arbenigydd ar Gymru. Os byddwch
ymysg y rheiny sy’n sgorio uchaf cewch gyfle i ennill gwobr
- bydd y 25 ymgeisydd llwyddiannus cyntaf yn cael eu gwahodd i ymweld
â Chymru fis Hydref nesaf ar daith cynefino â chynnyrch.
Bydd hyn yn cyd-ddigwydd â digwyddiad B2B mwyaf Cymru, Arddangosiad
Cymru a chi fydd y Gwestai Gwadd yn ein Digwyddiad Gala
Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru - achlysur
cwbl arbennig!
CYCHWYN
Bydd angen i chi gofrestru i gael mynediad at y rhaglen e-hyfforddiant.
Cliciwch ar y cyswllt isod i fynd at ein ffurflen gofrestru syml.
Y Dudalen Gofrestru
Gallwch wella eich gwybodaeth am Gymru a chreu Argraff ar eich
Bos a’ch Cleientiaid - Dewch yn Arbenigydd ar Gymru heddiw!
|